Pooka
03-25-07, 07:34 PM
Mae'r Prif Weinidog Rhodri Morgan wedi galw ar Gymru i gofio ei chyfraniad i ddileu'r fasnach gaethweision ym 1807 wrth i ddigwyddiadau arbennig gael eu cynnal ar draws Prydain a'r byd ddydd Sul i ddathlu'r deucanmlwyddiant.
Roedd Cymry dosbarth gweithiol o'r 18fed ganrif ymhlith y bobl a gyfrannodd, gan gynnwys y bardd Iolo Morganwg a'r pregethwyr John Elias a Morgan John Rhys.
Dywedodd Rhodri Morgan fod Dileu'r Ddeddf Masnach Caethweision yn gam pendant yn yr ymgyrch i ddileu caethwasiaeth ei hun.
"Mae'r deucanmlwyddiant yn gyfle pwysig i fyfyrio ynghylch pam y cymerodd gymaint o amser i wahardd y fasnach gaethweision a thalu teyrnged i ddewrder ac arddeliad moesol yr holl bobl - yn ddu ac yn wyn - a ymgyrchodd dros ei dileu.
"Mae hefyd angen i ni atgoffa'n hunain pa mor ddylanwadol oedd y fasnach gaethweision o ran creu elw i Brydain, yr Ymerodraeth Brydeinig ac o ran datblygu'r Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru," meddai.
'Gwerthfawrogi Rhyddid'
Cynhelir achlysur arbennig i ddathlu deucanmlwyddiant dileu'r fasnach gaethweision ym 1807 yn Neuadd Dewi Sant ddydd Sul.
Mae 'Gwerthfawrogi Rhyddid' yn dod â chorau, perfformwyr a siaradwyr rhyngwladol ynghyd i dystio i'r gorffennol ac edrych ymlaen at y dyfodol.
Bydd gwleidyddion blaenllaw yn ymuno â grwpiau cymunedol lleol a'r cyhoedd mewn achlysur coffaol cenedlaethol, sy'n cael ei gyfarwyddo gan Michael Bogdanov.
Ymhlith y rhai sy'n ymddangos bydd yr actores Gymreig Rakie Ayola, y cantorion Cymreig Siân James a Tracey Curtis, a'r Côr Gospel rhyngwladol Jesus to the Nations.
Ymhlith y siaradwyr bydd y Prif Weinidog Rhodri Morgan, yr Ysgrifennydd Gwladol Peter Hain, a Rodney Berman, Arweinydd Cyngor Caerdydd.
'Brwydr yn parhau'
Meddai Rodney Berman: "Mae hwn yn ddyddiad pwysig yn ein hanes ac mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio'r achlysur hwn i bwysleisio'r neges na fyddwn yn derbyn caethwasiaeth ar unrhyw ffurf yn ein cymdeithas.
"Ac wrth i ni dalu teyrnged a diolch i'r rheini a ymgyrchodd yn erbyn caethwasiaeth, rhaid i ni hefyd sicrhau bod y frwydr i hyrwyddo cydraddoldeb, cyfiawnder ac urddas i bawb, waeth beth fo'u hil na'u cefndir, yn parhau."
I gyd-fynd â'r digwyddiad, bydd llu o adloniant ac arddangosfeydd thematig yn Neuadd Dewi Sant.
Hefyd bydd arddangosfeydd arbennig yn Amgueddfa'r Glannau yn Abertawe a Chastell Penrhyn o Fai hyd Hydref.
Talodd Mr Morgan deyrnged i'r bobl a ddadleuodd dros ddileu'r fasnach, gan gynnwys y pregethwr John Elias o Ynys Môn, a alwodd am ddileu'r fasnach ym mhorthladd mawr Lerpwl, a Robert Everett o Sir y Fflint a anogodd y Cymry yn America i ymgyrchu.
Ac roedd y bardd Iolo Morganwg, sefydlwr Gorsedd y Beirdd, yn ymgyrchydd yn erbyn y fasnach.
"Mae'n gyfle i fynnu gofyn pam fod caethwasanaeth yn dal i fodoli yn rhannau o'r byd heddiw", meddai Mr Morgan.
Source (http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6490000/newsid_6493000/6493029.stm)